Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Offerynnau Statudol Gydag Adroddiadau Clir
9 Chwefror 2015
CLA488 - Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr)
(Cymru) 2015
Gweithdrefn: Negyddol
Mae’r Rheoliadau hyn yn ofynnol er mwyn bod yn
sail i’r system cymorth i fyfyrwyr addysg uwch (grantiau at
ffioedd, benthyciadau at ffioedd, grantiau cynhaliaeth a
benthyciadau cynhaliaeth) sydd fel arfer yn byw yng Nghymru ac
sy’n dilyn cyrsiau addysg uwch dynodedig mewn perthynas
â blynyddoedd academaidd sy’n dechrau ar neu ar
ôl 1 Medi 2015. Mae’r Rheoliadau hyn yn
disodli Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2013, fel
y’i iwygiwyd.
CLA489 Gorchymyn Gwahardd Cadw neu Ollwng Pysgod Byw (Rhywogaethau Penodedig) (Cymru) 2015
Gweithdrefn: Negyddol
Mae erthygl 3(1) yn gwahardd cadw neu ollwng yng Nghymru, heb drwydded a ddyroddwyd o dan Ddeddf Mewnforio Pysgod Byw (Cymru a Lloegr) 1980, unrhyw rywogaethau o bysgod dŵr croyw anfrodorol byw, neu wyau byw pysgod o’r fath, sy’n perthyn i’r urddau tacsonomaidd a restrir yn y tabl yn Rhan 1 o’r Atodlen.
Nid yw’r Gorchymyn hwn yn gymwys i ddyfroedd mewndirol, er y bu darpariaethau cyfatebol ar gyfer y dyfroedd hynny yn y Rheoliadau Cadw a Chyflwyno Pysgod (Cymru) 2014. Ni fu’n bosib cynnwys yr holl ddarpariaethau yn yr un offeryn oherwydd bod y Deddfau sy’n galluogi gwneud yr offerynnau wedi pennu’r defnydd o reoliadau a gorchymyn yn eu tro.